Mae’r prinder dŵr yfed yng Ngogledd Iwerddon wedi arwain at ofnau y gall ddatblygu’n argyfwng iechyd difrifol.

Mae degau o filoedd o gartrefi a busnesau’n dal heb gyflenwadau wrth i beiranwyr ymdrechu i atgyweirio pibellau wedi byrstio – ac mae rhai teuluoedd wedi bod heb ddŵr ers wyth diwrnod.

Dywed cwmni dŵr Gogledd Iwerddon, Northern Ireland Water – sydd wedi dod o dan y lach am ei fethiant i ddarparu gwybodaeth ddigonol – y bydd hi’n cymryd rhai dyddiau o leiaf cyn y bydd yr holl gyflenwadau wedi cael eu hadfer.

Un o’r ardaloedd sydd wedi cael eu taro galetaf yw rhannau o Belffast, lle mae dŵr potel yn cael ei ddosbarthu o gwmpas heddiw. Mae trefniadau ar y gweill hefyd i anfon tanceri i ddarparu dŵr ar gyfer toiledau.

Cyfarfod

Mae Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, wedi galw uwch-reolwyr Northern Ireland Water i Stormont i drafod y problemau a’r camau sy’n cael eu cymryd i ddatrys y sefyllfa.

“Mae consensws cyffredinol nad yw Northern Ireland Water a’r Adran Tai wedi ymateb yn effeithiol mewn llawer achos,” meddai.

“Dyw hyn ddim digon da.

“Er y bydd ymchwiliad llawnach i’r ymateb, y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweld y cyflenwadau wedi cael eu hadfer a’r pibellau wedi eu hatgyweirio.”

Rhybudd meddygon

Mae rhai meddygon yn rhybuddio y gall yr argyfwng dŵr arwain at beryglon afiechyd – yn enwedig ymysg yr henoed.

“Mae hwn yn argyfwng gwirioneddol o ran iechyd cyhoeddus,” meddai Dr Peter Maguire, meddyg teulu yn Newry.

“Mae Northern Ireland Water wedi bod yn shambolig yn y ffordd y maen nhw wedi ymateb.

“Mae pobl gyda theuluoedd ifanc wedi bod yn methu gwagio toiledau ac ymolchi, heb sôn am gael dŵr yfed. Dyw hyn ddim digon da. Mae’r hyn sy’n digwydd yn gwbl annerbyniol.”

Llun: senedd Stormont, Belffast