Gallai siopwyr wneud cyfraniadau at elusennau bob tro y maen nhw’n talu am bethau gyda cherdyn banc neu godi arian o dwll yn y wal o dan gynlluniau newydd gan y llywodraeth.

Mae’n bosibl hefyd y byddai pobl yn cael eu hannog i roi arian pan fyddan nhw’n llenwi ffurflenni treth neu wneud cais am basports neu drwyddedau gyrru.

Mae’r syniadau yma ymysg amrywiaeth o fesurau sy’n cael eu cynnig mewn papur ymgynghori gyda’r nod o hyrwyddo cyfrannu fel “arferiad cymdeithasol”.

Er bod arolygon yn dangos bod pobl Prydain yn hael o safbwynt cyfrannu arian, dydyn nhw ddim cystal am wirfoddoli eu hamser – ac mae gweinidogion y llywodraeth yn awyddus i hybu gwirfoddoli hefyd.

Gwirfoddolwyr

Fe fydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hannog i ddefnyddio mwy o wirfoddolwyr, ond mae’r llywodraeth yn gwadu bod hyn yn ymgais i leddfu effeithiau toriadau ar wario.

Dywed Francis Maude, Gweinidog Swyddfa Cabinet y llywodraeth, fod yr ymgynghoriad ar gyfrannu – a fydd yn parhau tan 9 Mawrth ac a fydd yn arwain at gynlluniau pendant yn y gwanwyn – yn elfen allweddol o agenda’r “gymdeithas fawr” gan y Torïaid.

“Mae rhoddi’n rhy aml yn cael ei stereoteipio fel rhywbeth teilwng ac anhunanol, stryd un-ffordd, ond does dim o’i le mewn gwneud pethau i’n gilydd ac ad-dalu caredigrwydd,” meddai.

“Os gallwn ni gytuno fel cymdeithas ar y gwerthoedd sy’n sail i helpu’n gilydd gallwn ryddhau potensial anferthol am gymdeithas gryfach, fwy.”