Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi ceisio tawelu amheuon aelodau ei blaid ar lawr gwlad trwy honni ei fod yn cadw at bob un o flaenoriaethau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad cyffredinol.
Yn ei neges flwyddyn newydd mae’r Nick Clegg yn cyfiawnhau’r penderfyniad i dorri addewid i wrthwynebu codiadau mewn ffioedd myfyrwyr a chefnogi toriadau mewn gwariant a budd-daliadau.
“Dyw popeth ddim wedi bod yn hawdd,” meddai. “Mae’r rhain yn amserau anodd i’r wlad ac i’n plaid ni hefyd. Mae cymryd camau i fynd i’r afael â’r ddyled, a’r angen i ddiwygio addysg uwch, wedi’n gorfodi ni i gymryd rhai penderfyniadau hynod o anodd.
“Ond dyna yw llywodraeth. Dw i’n credu o ddifrif ein bod ni’n gwneud y dewisiadau iawn.
“Wyth mis yn ôl roedden ni’n ymgyrchu ar bedwar addewid mawr ein maniffesto – trethi tecach, mwy o arian i blant o deuluoedd difreintiedig mewn ysgolion, economi werdd, gwleidyddiaeth newydd, agored. A bellach rydym yn gweithredu ar bob un a mwy.”
Addawodd y byddai’n cychwyn 2011 trwy ganolbwyntio ar “dri newid mawr” yn ogystal ag ymgyrchu am bleidlais o blaid newid y system bleidleisio i AV yn y refferendwm ym mis Mai:
“Fy mlaenoriaethau fydd diwygio’n system wleidyddol ac adfer ein hawliau sifil; hybu symudedd cymdeithasol fel na fydd unrhyw blentyn yn cael ei ddal yn ôl gan amgylchiadau ei eni; a sicrhau bod yr adfywiad economaidd yn wyrdd ac yn gytbwys, gyda chyfleoedd wedi eu lledaenu ledled y wlad.”