Mae gwledydd Gorllewin Affrica’n ystyried pa gam i’w gymryd nesa’ ar ôl i Arlywydd yr Arfordir Ifori wrthod eu cais am iddo adael y swydd.
Roedd tri o arlywyddion o wledydd cyfagos wedi mynd i weld Laurent Gbagbo i geisio’i berswadio i fynd ar ôl iddo golli etholiad ar 28 Tachwedd.
Fe wrthododd yntau’n blwmp ac yn blaen ac mae pryder y gallai’r gwrthdaro arwain at ymladd yn y rhanbarth.
Y cefndir
Roedd arlywyddion Sierra Leone, Benin a Cape Verde wedi mynd i’r Arfordir Ifori ar ran grŵp o wledydd y rhanbarth.
Fe fyddan nhw’n cyflwyno adroddiad i Arlywydd Nigeria – y wlad gryfa’ yn y grŵp – cyn trafod beth i’w wneud nesa’.
Mae’r grŵp hyd yn oed wedi sôn am ymyrraeth filwrol yn y wlad ond roedd sianel deledu swyddogol yr Arfordir Ifori’n dweud y gallai hynny arwain at beryg i bobol dramor sydd yno.
Llun: Laurent Gbagbo