Fe fydd Morgannwg yn brwydro i geisio cadw’u batiwr ifanc, Tom Maynard, ar ôl iddo ddweud ei fod eisiau gadael y sir.

Ddoe, fe gyhoeddodd y chwaraewr 21 oed ei fod yn bwriadu mynd o Forgannwg oherwydd cyfeiriad y clwb ac oherwydd y ffordd yr oedden nhw wedi trin ei dad, y cyn-gyfarwyddwr criced, Matthew Maynard.

Ond heddiw, mae’r sir wedi gwneud yn glir y byddan nhw’n ymladd i geisio gorfodi Tom Maynard i gadw at y cytundeb tair blynedd yr oedd wedi ei arwyddo ynghynt eleni.

Dyma’r helynt diweddara’ i daro’r sir ers iddyn nhw ddisodli tad y batiwr, Matthew Maynard, ac ers i’r Llywydd, Peter Walker, ymddiswyddo.

Fe ddywedodd Tom Maynard wrth Radio Wales bod y ffordd yr oedd y sir wedi trin ei “hen ddyn” yn rhan o’r rheswm tros ei benderfyniad.

Llun: Tom Maynard