Mae doctoriaid wedi cyhoeddi manylion eu cais am gwest i farwolaeth yr arbenigwr o Gymro a oedd ynghanol y dadlau tros fynd i ryfel yn Irac.
Roedden nhw wedi cyflwyno deiseb gyfreithiol i’r Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, ym mis Medi ac maen nhw’n disgwyl ateb yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Yn ôl eu cyfreithiwr, maen nhw wedi creu achos “nad oes modd ei ateb” i ddweud pam bod angen cwest ar farwolaeth David Kelly, yr arbenigwr arfau a gyfaddefodd ei fod wedi rhoi gwybodaeth gyfrinachol i’r BBC a oedd, i raddau, yn tanseilio achos y Llywodraeth tros fynd i ryfel.
Mae’r pum doctor yn dadlau bod cwestiynau heb eu hateb am farwolaeth y gŵr a oedd yn hanu o Gwm Rhondda ond a oedd, erbyn ei farwolaeth yn 2003, yn byw yn Swydd Rhydychen.
Maen nhw hefyd yn dweud bod angen cwest llawn i’w farwolaeth er mwyn gallu profi’r dystiolaeth yn iawn – yn ôl yr Ymchwiliad roedd wedi ei ladd ei hun trwy gymryd tabledi lladd poen a thorri ei arddwrn.
Y cefndir
O fewn dyddiau i’r sgandal dorri am ei honiadau fod y Llywodraeth wedi ymyrryd mewn dogfen am arfau dinistriol yn Irac, fe gafwyd y gwyddonydd yn farw mewn coedwig ger ei gartre’.
Fe ddyfarnodd ymchwiliad dan yr Arglwydd Hutton ei fod wedi ei ladd ei hun ac fe benderfynodd y Llywodraeth nad oedd angen cwest ffurfiol.
Ond, yn ôl deiseb y doctoriaid, doedd yr ymchwiliad ddim yn gymwys i ddyfarnu yn yr achos ac roedd cwestiynau pwysig heb eu hateb.
Y cwestiynau
Dyma’r cwestiynau pwysica’:
• Sut y cafodd David Kelly afael ar dabledi lladd poen.
• Pam nad oedd y lefel yn ei stumog yn ddigon i’w ladd.
• Pam nad oedd hofrennydd heddlu wedi gweld ei gorff – er bod ganddo offer gwres.
• Pam nad oedd yna olion bysedd ar y gyllell yr oedd David Kelly i fod wedi ei defnyddio.
Ar y llaw arall, mae arbenigwyr meddygol a phatholegol eraill wedi mynnu bod yr wybodaeth am farwolaeth David Kelly yn awgrymu hunanladdiad.
Dyfyniadau o’r ddeiseb
“Yn amlwg, roedd Ymchwiliad Hutton yn gymharol ddi-rym a heb ddannedd i ymchwilio, o gymharu â threfn statudol neu achos mewn llys crwner,” meddai’r ddogfen.
“Chafodd tystiolaeth y tystion ddim ei brofi yn y ffordd arferol trwy groesholi gan gynrychiolwyr pobol eraill oedd â diddordeb priodol yn yr achos.”
Llun: Dominic Grieve – disgwyl ateb (o’i wefan)