Fe fydd toriadau yn arian heddluoedd Cymru’n arwain at golli swyddi a mwy o straen ar wasanaeth sydd eisoes yn gweithio ar ei eitha’.

Dyna honiad Plaid Cymru ar ôl cael gafael ar ffigurau sy’n dangos bod plismyn yng Nghymru’n gweithio cannoedd o filoedd o oriau tros ben.

Mae Heddlu De Cymru, er enghraifft, yn gwario mwy na £6 miliwn y flwyddyn ar oriau tros ben, yn ôl y ffigurau a gafodd eu datgelu gan gais Rhyddid Gwybodaeth.

Yng Ngogledd Cymru, roedd nifer yr oriau tros ben wedi codi o bron draean yn ystod y tair blynedd rhwng 2007 a 2009.

Fawr o slac

“Mae’r ffigurau yr ydw i wedi eu cael yn awgrymu bod heddluoedd Cymru’n gweithio ar eu heitha’ heb fawr o slac,” meddai Chris Franks, un o’r Aelodau Cynulliad tros Ganol De Cymru.

“Fe fydd yr arbedion anferth sy’n cael eu gorfodi ar ein heddluoedd yn arwain fwy na thebyg at golli swyddi neu, o leia’, at rewi swyddi.

“Fe fydd hynny’n anorfod yn golygu llai o staff, yn gwneud rhagor o waith; eto, mae’r ffigurau gor-oriau ar draws pedwar heddlu Cymru’n awgrymu eu bod eisoes yn gweithio mor galed ag y gallan nhw.”

Fe alwodd Chris Franks ar y Llywodraeth yn Llundain i ailystyried y toriadau.