Mae diweithdra’n cynyddu problemau iechyd meddwl ymhlith pobol ifanc yn ôl adroddiad newydd gan Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Mae indecs blynyddol sy’n cael ei gyhoeddi gan yr elusen yn dangos bod hapusrwydd a bodlonrwydd pobol rhwng 16 a 25 oed ar ei isa’ ers dechrau’r gwaith ymchwil dair blynedd yn ôl.
• Mae tua hanner y bobol Ifanc sy’n ddi-waith yn dweud eu bod yn diodde’ o broblemau fel diffyg cwsg neu geisio’u niweidio’u hunain. Roedd problemau felly ddwywaith yn waeth ymhlith pobol ifanc oedd yn ddi-waith ers mwy na blwyddyn.
• Mae un o bob chwech yn dweud fod diweithdra’n achosi cymaint o boen â chwalfa deuluol ac un o bob wyth yn dweud eu bod yn cael hunllefau oherwydd hynny.
• Mae hanner y rhai sy’n chwilio am waith yn dweud bod mynd i ganolfan waith yn achosi “cywilydd” ac yn creu teimladau o ddadrithio.
• Mae pobol ifanc sydd heb fod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant yn aml yn teimlo’n ynysig a rhai yn mynd am ddyddiau heb adael y tŷ.
Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi gweithio gyda Sefydliad Macquaire i holi 2,170 o bobol ifanc ar draws gwledydd Prydain.
“Mae diweithdra’n achosi problemau iechyd meddwl real ac arswydus i bobol ifanc a hwya’ yn y byd y maen nhw heb waith, mwya’ yn y byd yw’r peryg,” meddai Martina Milburn, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Llun: Person ifanc o glawr yr adroddiad