Fe fydd y Prif Weinidog yn croesawu tîm criced buddugol Lloegr i dderbyniad yn rhif 10 Downing Street.
David Cameron oedd un o’r rhai cynta’ i longyfarch y tîm ar ôl iddyn nhw lwyddo i gadw tlws y Lludw trwy ennill y bedwaredd gêm brawf yn Awstralia.
Dyma’r tro cynta’ iddyn nhw gyflawni’r gamp honno ers 24 o flynyddoedd ac fe wnaethon nhw hynny’n gyfforddus gyda buddugoliaeth o fatiad a 157 o rediadau.
Hyd yn oed os bydd Awstralia’n ennill y prawf ola’ gan ddod â’r gyfres yn gyfartal, fe fydd Lloegr yn cadw’r tlws enwog.
Yn ôl David Cameron, roedd y fuddugoliaeth “yn anrheg Nadolig hwyr i’r wlad” ac mae disgwyl dathlu mawr ymhlith o miloedd o gefnogwyr Lloegr – y Barmy Army – sydd allan yn Awstralia.
Llun: Gwefan y Barmy Army’n dathlu