Mae tua thair mil o gartrefi yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yn dal heb gyflenwad dŵr – ac mae’n annhebyg y bydd y broblem yn cael ei datrys cyn bore yfory.

Cafodd dŵr potel ei ddosbarthu i’r cartrefi – mewn ardaloedd o gwmpas San Clêr yn bennaf – wrth i gwmni Dŵr Cymru wynebu’r problemau mwya’ ers cyn cof gyda phibellau’n torri.

Mae’r cwmni’n delio gyda thua 250 o achosion o bibellau wedi torri a dyw hynny ddim yn cynnwys y problemau y tu mewn i gartrefi pobol.

Y dadmer sy’n achosi’r trafferthion ar ôl y Rhagfyr oera’ ers dechrau cadw cofnodion gydag eira a rhew caled yn ddi-dor am bron bythefnos.

Ymysg ardaloedd eraill i ddioddef toriadau neu bwysedd isel yn y cyflenwad heddiw, y mae Aberdâr, Hwlffordd, Llanrwst a rhannau helaeth o Bowys a Swydd Henffordd.

‘Dim byd tebyg’

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredu’r cwmni, Peter Perry, doedd gweithwyr mwya’ profiadol y cwmni ddim yn cofio amgylchiadau tebyg.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales eu bod wedi eu “hymestyn i’r eithaf” yn ceisio delio â’r problemau. “Dydyn ni ddim wedi gweld dim tebyg i hyn o’r blaen,” meddai.

“Rydyn ni’n gwneud popeth yn gallu i gael y cyflenwad dŵr yn ôl cyn gynted ag y gallwn ni.”