Fe fydd mwy nag 20,000 o deuluoedd yng Nghymru’n colli bron £400 mewn budd-daliadau gofal plant y flwyddyn nesa’, meddai elusen.
Mae’r Resolution Foundation yn dweud bod peryg y bydd rhai pobol, yn enwedig mamau, yn gorfod rhoi’r gorau i weithio oherwydd y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno ym mis Ebrill.
Fe gyhoeddodd y Canghellor, George Osborne, ei fod yn torri’r arian y mae pobol yn gallu’i hawlio am ofal plant trwy’r credyd treth mewn gwaith – fe fydd yn mynd i law ro 80% o’r gost i 70%.
Yn ôl yr elusen, mae 20,790 o bobol yn hawlio’r credyd yng Nghymru ac fe fydd y golled ar gyfartaledd yn £398 yr un.
Mae Resolution yn dweud nad yw’r rhan fwya’ o bobol yn ymwybodol o’r newid er ei fod yn digwydd ymhen tri mis.
‘Anodd i famau’
“Fe fydd hi’n anodd i famau sydd ar gyflogau isel neu ganolig gymryd y baich yma,” meddai Prif Weithredwr y Sefydliad, Gavin Kelly.
“I lawer o rieni, mae cymorth gyda chostau gofal plant yn hanfodol er mwyn aros mewn gwaith a’r gofid yn awr yw y byddan nhw’n awr yn gweld nad yw gwaith yn talu.”
Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi beirniadu’r Llywodraeth, gyda’r llefarydd ar waith a phensiynau, Douglas Alexander, yn dweud y bydd y toriadau’n gwneud amser caled yn galetach fyth.