Mae ardaloedd helaeth yng Ngogledd Iwerddon heb gyflenwad dŵr heno wrth i beirianwyr frwydro i atgywirio’r nifer fawr o bibellau sy’n gollwng.

Wrth i’r rhew feirioli mae pibellau wedi byrstio yn y prif gyflenwad dŵr, gan adael miloedd o bobl heb ddŵr.

Gyda lefelau dŵr yn isel mewn cronfeydd dŵr yn ogystal, dywed swyddogion cwmni dŵr Gogledd Iwerddon y bydd yn rhaid i’r cyflenwad gael ei ddarparu i wahanol leoliadau yn eu tro wrth i’r gwaith o atgyweirio’r difrod barhau.

Mae safleoedd wedi agor i rannu poteli o ddŵr i bob mewn angen, ond gan fod llawer o gartrefi wedi bod am ddyddiau heb ddŵr, mae anniddigrwydd cynyddol ynghylch y mater.

Mae dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, wedi addo cynnal adolygiad o’r ymateb i’r tywydd garw a dywedodd y byddai’r bobl fwyaf bregus yn cael cymorth ariannol gan y llywodraeth.