Mae cynlluniau’r llywodraeth i gael gwared ar y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig (FSS) wedi cael ei gondemnio gan wyddonwyr blaenllaw.
Roedd y Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’n gynharach yn y mis y byddai’r gwasanaeth, sy’n gwneud colled o £2 filiwn y mis, yn dod i ben ym mis Mawrth 2012.
Mewn llythyr yn y Times heddiw, mae 33 o wyddonwyr fforensig yn rhybuddio y bydd cynlluniau’r llywodraeth yn golygu “cam yn ôl” i system gyfiawnder Prydain.
Maen nhw’n dweud y byddai’n ergyd i Brydain fel arweinydd byd-eang mewn ymchwilio i droseddau, gan rybuddio na fydd y farchnad rydd yn gallu darparu’r ffurfiau drutaf o ddadansoddi sydd ei angen mewn rhai achosion.
Ymysg y gwyddonwyr i arwyddo’r llythyr y mae’r Athro Syr Alec Jeffreys, a arloesodd y gwaith o ddefnyddio tystiolaeth DNA, sydd wedi chwyldroi ymchwiliadau fforensig ers yr 1980au. Yn ôl y gwyddonwyr i’r FSS y mae’r diolch am sicrhau bod ei waith yn cael ei ddefnyddio ledled y byd.
Mae’r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig wedi bod yn eiddo i’r llywodraeth ers 2005 ac mae ei ymchwilwyr wedi chwarae rhan mewn cyfres o erlyniadau nodedig fel achos y pedoffil Roy Whiting a lofruddiodd yr eneth wyth oed Sarah Payne yn 2000.
Llun: gwyddonydd fforensig wrth ei waith (o wefan yr FSS)