Cafwyd ergyd i obeithion Caerdydd am ddyrchafiad y prynhawn yma wrth i Watford eu curo 4-1.

Er mai’r Adar Glas a sgoriodd gyntaf gyda gôl gan Peter Whittingham ar ôl chwarter awr, roedd y tîm cartref yn chwarae’n llawer gwell a chyflymach na nhw trwy gydol y gêm.

Buan y sgoriodd David Graham i ddod â’r Hornets yn gyfartal, er nad aethon nhw ar y blaen tan yr ail hanner gyda goliau o fewn munudau i’w gilydd gan Marvin Sordell a John Eustace.

Gyda’r niwl yn cau am y gêm, cafodd tynged yr Adar Glas eu selio gan gic o’r smotyn gan Will Buckley chwe munud cyn y diwedd.

Gydag absenoldeb Craig Bellamy yn amlwg yn golled fawr iddyn nhw, gorffennodd yr Adar Glas y flwyddyn gyda pherfformiad siomedig iawn.