Roedd gôl gyntaf Jermaine Easter i Abertawe’n ddigon i guro Barnsley heddiw – a sicrhau bod yr Elyrch yn gyfartal o ran pwyntiau â Chaerdydd sydd yn yr ail safle.

Fe wnaeth gôl y chwaraewr rhyngwladol dros Gymru ar y 27ain munud brofi’r gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, a chodi calon yr Elyrch ar ôl colli 4-0 i QPR ddydd San Steffan.

Mae’n golygu y byddan nhw’n cychwyn 2011 yn y trydydd safle yng nghynghrair Pencampwriaeth npower – gyda’r un nifer o bwyntiau â Chaerdydd a Leeds, a gyda Norwich un pwynt yn unig ar ôl.