Mae un o Dorïaid blaenllaw’r Alban yn ceisio sicrhau refferendwm cyn i bwerau trethu pellach gael eu trosglwyddo i senedd yr Alban.

Fe fydd yr Arglwydd Forsyth o Drumlean, un o gyn-ysgrifenyddion yr Alban, yn cyflwyno gwelliannau yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan galw am refferendwm ar y mesur i wireddu argymhellion Calman .

Dadl yr Arglwydd Forsyth yw fod gan y cyhoedd yr hawl ddemocrataidd i benderfynu a ddylid trosglwyddo pwerau ar dreth incwm o Aelodau Seneddol San Steffan i Aelodau Senedd yr Alban.

Dywed y byddai’r diwygiadau’n arwain at ganlyniadau annisgwyl, gan gynnwys busnesau’n gadael oherwydd ofnau am drethi uwch, a newid llwyr yn y ffordd y caiff yr Alban ei hariannu trwy fformiwla Barnett.

“Mae’r gefnogaeth i’r cynlluniau gan y tair plaid unoliaethol – Llafur, y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol – wedi arwain at ddiffyg craffu a dadlau cyhoeddus,” meddai.

“Ac yn fy mhrofiad i o wleidyddiaeth, lle mae consensws mae bob amser yn arwain at anhrefn.”

Egwyddor

Yn ôl yr Arglwydd Forsyth, mae egwyddor amlwg yn gofyn am refferendwm ar y cynlluniau, gan mai’r cwestiwn yn refferendwm 1997 oedd a ddylai senedd yr Alban gael yr hawl i amrywio treth incwm dair ceiniog ar y gyfradd safonol.

Mae’r cynlluniau newydd yn llawer ehangach, gan eu bod yn galluogi Aelodau Seneddol yr Alban i gadw treth incwm hyd at 10 ceiniog yn is – neu faint a fynnir yn uwch – nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Cafodd y newidiadau eu hargymell gan y pwyllgor annibynnol o dan arweiniad Syr Ken Calman, sy’n sail i Ddeddf yr Alban a gafodd ei chyflwyno gan lywodraeth Prydain y mis diwethaf.

O dan y cynlluniau yma, fe fyddai treth incwm Albanaidd newydd yn cael ei greu 10c islaw cyfradd Prydain. Fe fyddai’r swm y byddai’n ei godi’n cael ei dynnu o grant bloc £30 biliwn yr Alban.

Fe fyddai gan Aelodau Seneddol yr Alban yr hawl wedyn i gynyddu’r dreth incwm gymaint neu gyn lleied ag y bydden nhw’n dymuno – cynllun a fyddai’n galluogi i gyfraddau treth incwm gael eu rhannu rhwng Holyrood a San Steffan.

Llun: Senedd yr Alban