Mae India wedi tynhau trefniadau diogelwch yn ei dinasoedd mawr ar ôl derbyn gwybodaeth fod grŵp o wrthryfelwyr o Bacistan yn cynllwynio ymosodiad yn y flwyddyn newydd.

Mae mwy o heddlu ar strydoedd dinasoedd y wlad, gan gynnwys y brifddinas ariannol, Mumbai, lle bu ymosodiad difrifol ddwy flynedd yn ôl.

Yn ôl Gweinyddiaeth Gartref India, cafwyd adroddiadau fod y grŵp Lashkar-e-Taiba yn bwriadu targedu meysydd awyr a gorsafoedd rheilffordd ac ynys Goa, sy’n gyrchfan wyliau boblogaidd.

Mae India wedi cymryd pob bygythiad terfysgol o ddifrif ers y gwarchae arfog a barhaodd am dridiau ym Mumbai yn 2008, pryd y cafodd 166 o bobl eu lladd.

Mae trefniadau diogelwch llym ym Mumbai ers ddydd Gwener, pryd y dechreuodd yr heddlu chwilio am bedwar dyn y mae’r heddlu’n credu iddyn nhw ddod i’r ddinas i gyflawni ymosodiad terfysgol. Mae’r lluniau cyfrifiadurol o’r dynion wedi cael eu cyhoeddi.

Heddiw, mae’r heddlu wrthi’n chwilio o dŷ i dŷ mewn rhannau o’r ddinas ac yn cadw gwyliadwriaeth mewn gorsafoedd trenau a bysus, eglwysi a marchnadoedd.

Yn yr ymosodiad yn 2008, ymosodwyd ar ddau westy moethus, canolfan Iddewig a gorsaf drenau gan 10 o derfysgwyr arfog.

Ym mis Mawrth eleni, dywedodd heddlu Mumbai iddyn nhw rwystro ymosodiad terfysgol ar ôl iddyn nhw arestio dau ddyn Indiaidd.