Dywed yr heddlu mai wedi cael ei thagu yr oedd Joanna Yeates, y pensaer tirwedd ifanc y cafwyd hyd i’w chorff ym Mryste ddydd Nadolig.
Wrth ddatgelu canlyniadau archwiliad post mortem, cyhoeddodd y Ditectif Brif Arolygydd Phil Jones o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod yr achos bellach yn cael ei drin yn swyddogol fel llofruddiaeth.
Wrth apelio am wybodaeth am y ferch a ddiflannodd ddydd Gwener, 17 Rhagfyr meddai: “Mae rhywun yn rhywle’n gwybod beth a ddigwyddodd i Joanna.”
Dywedodd fod yr heddlu’n credu i’w chorff fod wedi gorwedd am rai dyddiau yn y fan lle cafwyd hyd iddi.
Roedd y pensaer tirwedd 25 oed wedi bod ar goll am wyth diwrnod pan gafwyd hyd i’w chorff tua thair milltir o’i chartref yn Clifton, Bryste.
Oherwydd fod y corff wedi rhewi, ni allodd patholegwyr ei archwilio i ddarganfod achos ei marwolaeth tan heddiw.
Llun: llun teledu cylch cyfyng o Joanna Yeates ar y nos y diflannodd