Mae wyth o bobl wedi cael eu lladd gan daflegrau’r Unol Daleithiau mewn dau ymosodiad ar wrthryfelwyr yng ngogledd-orllewin Pacistan ar y ffin ag Afghanistan.
Ymhlith y rhai a gafodd eu lladd roedd o leiaf ddau o bobl a oedd yn nôl cyrff o’r ymosodiad cyntaf, ac yn ol swyddogion diogelwch Pacistan, fe allai’r rhain fod yn sifiliaid.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau ar ddiwedd blwyddyn o gyrchoedd cyson gan yr Americanwyr i geisio cael gwared ar ymladdwyr al Qaida a’r Taliban sy’n ceisio lloches y tu allan i Afghanistan.
Mae tua 115 o ymosodiadau taflegau drôn wedi cael eu lansio eleni – mwy na dwywaith cymaint â’r llynedd.
Mae bron y cyfan ohonyn nhw wedi glanio yng Ngogledd Waziristan, rhanbarth sy’n gadarnle i amryw o grwpiau o wrthryfelwyr sy’n ymladd yn erbyn lluoedd America a Nato yn Afghanistan.
Ddoe, cafodd o leiaf o wrthryfelwyr honedig eu lladd wrth i daflegrau Americanaidd daro dau gerbyd mewn rhan arall o Ogledd Waziristan.
Fe gafodd chwech o wrthryfelwyr eu lladd yn y cyntaf o’r ddau ymosodiad heddiw, a theirawr yn ddiweddarach, wrth i bobl fynd i nôl y cyrff, digwyddodd yr ail ymosodiad gan ladd y ddau arall.
Yn swyddogol, mae Pacistan yn protestio yn erbyn yr ymosodiadau, gan ddweud eu bod nhw’n tarfu ar eu sofraniaeth ac yn creu drwgdeimlad ymysg arweinwyr llwythau brodorol. Ond y gred yw fod llywodraeth y wlad yn gefnogol i’r ymosodiadau – ac yn darparu gwybodaeth gudd ar gyfer o leiaf rai ohonyn nhw.
Llun: Map o Bacistan (CCA 3.0)