Mae cynlluniau i roi hawl i’r cyhoedd gyflwyno deisebau’n galw am wahanol ddeddfau newydd wedi cael eu condemnio gan Aelod Seneddol o Gymru.

Yn ôl Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, byddai cynlluniau o’r fath – sy’n cael eu gwthio gan y Llywodraeth – yn rhoi grym yn nwylo pobl “ffanaticaidd ac obsesiynol”.

Y disgwyl yw y bydd y cynlluniau’n galluogi’r cyhoedd i alw am ddadleuon seneddol ar wahanol faterion trwy gyflwyno deisebau ar y wefan DirectGov.

Roedd y syniad o warantu dadl ffurfiol am unrhyw ddeiseb a fyddai’n sicrhau 100,000 neu fwy o enwau ymysg syniadau a gafodd eu hawgrymu gan y Prif Weinidog David Cameron tra oedd yn arweinydd yr wrthblaid.

Yn ôl Paul Flynn, aelod Llafur o bwyllgor gweinyddu cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin, mae’n syniad hollol wirion.

“Os gofynnwch i bobl a ydyn nhw eisiau talu llai o dreth maen nhw am bleidleision ‘ydyn’,” meddai.

“Os cawn ni’r e-ddeisebau, fe fydd rhai’n gofyn am i Jeremy Clarkson fod yn brif weinidog, ac ar i Jedi a Darth Vader fod yn grefyddau’r wlad.

“Dyw’r blogosffer ddim yn faes sy’n agored i ddadlau synhwyrol, mae’n cael ei dra-arglwyddiaethu gan yr obsesiynol a’r ffanaticaidd ac fe fyddwn ni’n cael syniadau gwallgo’n cael eu cyflwyno.”

Mae system e-ddeisebu’r llywodraeth wedi cael ei diddymu dros dro tra bydd y llywodraeth yn ceisio ffyrdd mwy effeithiol o adlewyrchu barn y cyhoedd.

Ddechrau’r flwyddyn roedd galwad ar i Gordon Brown ymddiswyddo fel prif weinidog wedi denu tua 70,000 o enwau – gyda bron gymaint eisiau cael cyflwynydd y rhaglen Top Gear, Jeremy Clarkson, yn ei le.

Llun: Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd