Mae dyn a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu yn Swydd Efrog wedi cael ei enwi fel Alistair Bell.

Fe fu farw’r dyn 42 oed wrth i blismyn danio’n ôl ar ei dŷ teras yn ardal Kirkheaton o Huddersfield.
Yn ôl cymdogion, roedd byw ar ei ben ei hun, yn ddi-waith, ac roedd ganddo hanes o gamddefnyddio cyffuriau.

Fe ddechreuodd y warchae neithiwr wrth i’r dyn danio ar blismyn wrth iddyn nhw geisio ei arestio tua 10 o’r gloch. Cafodd heddwas ifanc ei daro gan fwled a dioddef mân anafiadau pan anelodd Alistair Bell at y plismyn o garreg ei ddrws. Aeth i mewn i’r tŷ wedyn lle daliodd i fygwth yr heddlu.

Fe barhaodd y warchae tan tua 5.30 y bore yma pryd y cafodd ei saethu ar ôl iddo ailddechrau tanio at yr heddlu.

Mewn datganiad am y digwyddiad, dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog:

“Mae’n ddrwg gyda ni na ddaeth y digwyddiad yn y tŷ i ben yn heddychlon fel yr oedden ni wedi gobeithio a gallwn gadarnhau bod y dyn a gludwyd i’r ysbyty o’r cyfeiriad hwnnw wedi marw.”

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Llun: Eglwys Kirkheaton (Humphrey Bolton CCA 2.0)