Fe fydd y rheolwr Dave Jones yn chwilio am berfformiad da arall gan Gaerdydd yn Watford heddiw.
Roedd wrth ei fodd gyda pherfformiad ei dîm yn erbyn Coventry ddydd Gŵyl San Steffan pan enillon nhw’n gyfforddus o 2-0 ac ail ennill yr ail le yn y Bencampwriaeth.
Mater o amynedd oedd hynny, meddai Dave Jones, sydd wedi ymateb yn flin i’r feirniadaeth a gafodd Caerdydd yn ystod yr wythnosau diwetha’.
Gyda’r clwb yn cael ychydig iawn o bwyntiau yn nau fis ola’r flwyddyn, y peryg oedd troi’n negyddol, meddai, gan golli hyder a chwilio am bethau mawr oedd o’i le.
Llinell denau
Ond llinell denau sydd weithiau rhwng ennill a cholli, meddai Dave Jones, a dyna oedd yr achos gyda Chaerdydd.
“Gallai’r gemau yn erbyn QPR a Middlesborough fod wedi mynd y naill ffordd neu’r llall,” meddai. “Doedd yr un o’r ddwy’n gosfa.
“Fe ddaeth popeth at ei gilydd yn erbyn Coventry.”
Roedd y fuddugoliaeth honno’n ddiwedd ar rediad gwael arall – tan hynny, doedd Caerdydd ddim wedi ennill gêm ar 26 Rhagfyr ers 11 mlynedd.