Fe fydd capten Abertawe, Alan Tate, ar gael yn erbyn Barnsley y prynhawn yma – er gwaetha’ carden goch yn ei gêm ddiwetha’.
Fe gadarnhaodd y clwb eu bod yn apelio yn erbyn y penderfyniad i anfon yr amddiffynnwr o’r cae ar ôl llai nag 20 munud o’r gweir o 4-0 yn erbyn QPR yn Loftus Road ddydd Gŵyl San Steffan.
Gêm dyngedfennol
Gan mai yfory y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal y gwrandawiad, mae Tate yn cael chwarae heddiw mewn gêm sy’n dyngedfennol i dymor yr Elyrch.
Maen nhw’n bedwerydd yn y Bencampwriaeth ar ôl colli tir yn ystod yr wythnosau diwetha’ ac mae’r rheolwr, Brendan Rodgers, wedi galw am berfformiad cryf yn y Liberty ar ôl y golled yn erbyn arweinwyr y tabl.
“Dw i wedi dweud wrth y chwaraewyr bod arnon ni berfformiad i’n cefnogwyr,” meddai. “Dw i eisio i ni gael perfformiad a chanlyniad y gallan nhw fod yn falch ohono.”
Y cefndir
Roedd Tate wedi ei anfon o’r cae ar ôl gwrthdaro oddi ar y bêl. Yn ôl y dyfarnwr, roedd wedi penio un o chwaraewyr QPR yn ei wyneb ond fe benderfynodd Abertawe apelio ar ôl gweld tystiolaeth fideo.
Llun: Alan Tate