Fe gafodd ysbïwr honedig ei grogi yn Iran heddiw, yn ôl adroddiadau o’r wlad.
Roedd Ali Akbar Siadati wedi cael ei gyhuddo o drosglwyddo gwybodaeth am allu milwrol Iran i’w gelyn penna’, Israel.
Fe gafodd ei arestio yn 2008 ac, yn ôl yr awdurdodau yn Iran, roedd wedi bod yn ysbïo ers 2004.
Heddiw, fe gyhoeddodd asiantaeth newyddion swyddogol Iran ei fod wedi cael ei ddienyddio yng Ngharchar Evin ar gyrion Tehran.
Fe gafodd ysbïwr honedig arall ei ddienyddio yn 2008 – roedd yntau wedi cael ei gyhuddo o roi gwybodaeth i Israel.
Llun: Carchar Evin (Ehsan Iran CCA 2.0)