Mae prif swyddogion heddlu’n galw am fesurau newydd i warchod gweithwyr rhyw rhag dynion treisgar.

Maen nhw’n dweud bod angen cronfa ddata ganolog gyda rhestr o enwau a lluniau dynion sy’n cael eu hamau o ymosod ar buteiniaid.

Mae cyhoeddiad ACPO – Cymdeithas y Prif Swyddogion Heddlu – yn ymateb i’r achos llys yr wythnos ddiwetha’ pan gafodd y llofrudd Stephen Griffiths ei garcharu am oes am ladd tair gweithwraig ryw yn Bradford, a hynny mewn modd dychrynllyd.

Arbed arian

Ond, yn ôl y Dirprwy Brif Gwnstabl Simon Byrne, sy’n llefaru ar ran y Gymdeithas ar y pwnc, fe fyddai cronfa wybodaeth hefyd yn ffordd o arbed arian ar adeg o gyni.

Fe fyddai buddsoddi ychydig mewn trefn o’r fath yn atal llawer o droseddau a’r gost sydd ynghlwm wrth hynny, meddai.

Mae heddluoedd mewn rhai ardaloedd eisoes yn cadw rhestr enwau ac yn rhoi gwybod i weithwyr rhyw yn eu hardaloedd, ond dyw hynny ddim yn digwydd ar draws gwledydd Prydain.

Mae ACPO hefyd yn galw am drafodaeth ar rai o’r cyfreithiau sy’n cyfyngu ar y diwydiant rhyw – y ddadl yw bod rhai o’r deddfau’n gyrru puteiniaid i’r strydoedd ac yn eu gwneud yn llai tebyg o fynd at yr heddlu pan fydd angen help.

Llun: Shelley Armitage, un o’r tair a laddwyd yn Bradford