Wrth i unig ganolfan Gymreig y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig gau ei drysau, mae grŵp o arbenigwyr wedi rhybuddio’r Llywodraeth rhag cael gwared ar y gwasanaeth yn llwyr.
Fe fyddai hynny’n golygu gwneud niwed i enw rhyngwladol gwledydd Prydain yn y maes, medden nhw mewn llythyr i’r wasg, ac yn ei gwneud hi’n llai tebyg y bydd rhai troseddau difrifol yn cael eu datrys.
Fe fydd Labordy’r Gwasanaeth Fforensig yng Nghas-gwent yn cau ddiwedd yr wythnos hon, gan golli 168 o swyddi ac yn awr mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd y gwasanaeth cyfan yn mynd erbyn 2012.
Maen nhw’n dweud bod marchnad breifat yn datblygu yn y maes ac nad yw’r gwasanaeth cyhoeddus yn talu’i ffordd – mae’n colli tua £2 filiwn y mis.
‘Siom’
Ond, yn ôl y 33 o arbenigwyr, sy’n cynnwys un o arloeswyr gwyddoniaeth DNA, fe fydd hynny’n tanseilio safle gwledydd Prydain yn arwain ym maes archwilio safleoedd trosedd.
Roedd y bwriad i chwalu’r gwasanaeth wedi cael ei dderbyn “gyda siom ac anghredinedd” ar draws y byd, medden nhw.
Llun: O wefan y gwasanaeth