Fe gafodd dyn 42 oed ei ladd mewn gwarchae heddlu yng ngorllewin Swydd Efrog.

Roedd plisman hefyd wedi cael ei anafu yn y digwyddiad mewn tŷ yn nhref Kirkheaton ger Huddersfield.

Fe ddaeth y warchae i ben tua 5.30 y bore yma pan daniodd yr heddlu at y dyn arfog. Yn ôl yr adroddiadau cynta’, roedd y dyn wedi’i anafu ond heb fod yn ddifrifol wael.

Bellach, fe gyhoeddodd Heddlu West Yorkshire ei fod wedi marw ond dyw ei enw ddim wedi ei gyhoeddi eto.

Methu gorffen yn heddychlon

“Mae’n ddrwg gyda ni na ddaeth y digwyddiad yn y tŷ i ben yn heddychlon fel yr oedden ni wedi gobeithio a gallwn gadarnhau bod y dyn a gludwyd i’r ysbyty o’r cyfeiriad hwnnw wedi marw,” medden nhw mewn datganiad.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Llun: Eglwys Kirkheaton (Humphrey Bolton CCA 2.0)