Mae dyn a dynes 27 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio bachgen 15 oed ddydd Nadolig.

Roedden nhw wedi eu harestio ar ôl i heddlu gael eu galw i fflat yn Newham, Llundain, ar ôl cael adroddiadau bod y bachgen wedi boddi yn y bath.

Roedd hynny tuag amser cinio ddydd Sadwrn ond, pan gyrhaeddodd swyddogion, fe welson nhw bod nifer sylweddol o anafiadau ar y corff hefyd.

Bellach, mae Eric Baikubi a gwraig ddienw wedi cael eu cyhuddo o lofruddio’r dyn ifanc.

Dyw archwiliad post mortem ym Marwdy East Ham ddim wedi gallu dangos beth oedd achos ei farwolaeth ac mae profion pellach yn cael eu cynnal.

Llun: Marwdy East Ham – profion pellach