Mae Heddlu De Cymru wedi gwrthod beirniadaeth bod swyddogion cymunedol yn costio ffortiwn am bob trosedd y maen nhw’n eu datrys.
Yn ôl ffigurau sydd wedi eu datgelu gan asiantaeth newyddion, dim ond wyth trosedd oedd wedi eu datrys gan 311 o Swyddogion Cefnogi Cymunedol yn y llu a hynny ar gost o £9.3 miliwn o gyflogau.
Mae hynny’n golygu cost o bron £1.2 miliwn am bob trosedd, cynnydd ar y gost o £640,000 am bob trosedd y flwyddyn cyn hynny.
Ond nid dyna’r ffordd i fesur gwaith y swyddogion sy’n cefnogi plismyn, meddai’r Heddlu eu hunain.
Uwch na heddluoedd eraill
Heddlu De Cymru yw un o ddau lu sy’n cael sylw oherwydd cost uchel y swyddogion – mae’r gost am bob trosedd yn Leicestershire, er enghraifft, cyn ised â £14,800.
Yn Heddlu Gogledd Cymru, roedd 159 o swyddogion cymunedol wedi datrys 82 o droseddau ar gost o £3.4 miliwn o gyflogau, neu £41,305 am bob trosedd,
Ond nid datrys troseddau oedd prif waith y swyddogion, meddai Heddlu De Cymru, wrth ymateb i adroddiad y Press Association – roedd yr asiantaeth wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth am heddluoedd trwy Gymru a Lloegr.
Mae eu ffigurau’n dangos bod swyddogion de Cymru hefyd wedi cyhoeddi 5,305 rhybudd cosb – ar gost o £1,758 yr un.
Ymateb yr Heddlu
“Rôl Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu yw datblygu a chynnal cytgord yn y gymuned ac maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi am hynny yn ne Cymru,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Julian Kirby.
“Mae eu gwaith i wella ansawdd bywyd i drigolion yn dwyn ffrwyth mewn sawl gwahanol ffordd ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Un agwedd o rôl eang yw casglu gwybodaeth i helpu swyddogion heddlu leihau a datrys troseddau, yn ogystal â chynnig sicrwydd i ddioddefwyr a chymunedau.”
Llun: Heddlu De Cymru