Mae cannoedd o filoedd o siopwyr wedi bod yn rhuthro i’r prif strydoedd heddiw i fanteisio ar eu cyfleoedd olaf am fargeinion cyn i dreth ar werth godi yn y flwyddyn newydd.
Agorodd John Lewis a Harrods eu drysau am y tro cyntaf ar ôl y Nadolig heddiw, gyda John Lewis yn gobeithio ailadrodd eu llwyddiant yr wythnos cyn y Nadolig. Roedd eu cyfanswm gwerthiant o £97 miliwn yr wythnos ddiwethaf yn gynnydd o 30% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Dywed y cwmni iddyn nhw gael Nadolig hynod lwyddiannus hefyd o safbwynt gwerthiant ar-lein, gyda chynnydd o dros 40% o gymharu â’r llynedd.
Fe fu tywydd mwynach na’r disgwyl yn hwb i siopau Llundain heddiw, gyda £10,000 y funud yn cael ei wario yng nghanolfan siopa Brent Cross yng ngogledd-orllewin y ddinas – o gymharu â £7,000 y funud ddoe.
Yn ôl rheolwr y ganolfan, roedd siopau’n cynnig disgownts o hyd at 80% er mwyn denu cwsmeriaid.