Fe wnaeth y maswr Dan Biggar sgorio 26 pwynt i’r Gweilch wrth iddyn nhw chwalu’r Scarlets o saith cais i ddau yn Stadiwm Liberty heno.

Mae’r fuddugoliaeth pwynt bonws yn rhoi’r Gweilch yn yr ail safle yng nghynghrair Magners.

Roedd y gêm wedi cael ei gohirio 24 awr oherwydd pibau dŵr wedi rhewi yn Stadiwm Liberty.

Ond y Scarlets a oedd yn ymddangos wedi rhewi heno. Er mai nhw a sgoriodd gyntaf yn y gêm gyda chic gosb gan Rhys Priestland, fe wnaeth eu diffyg disgyblaeth alluogi’r Gweilch i reoli gweddill y gêm.

Ar ôl y munudau agoriadol buan y cafodd y Gweilch oruchafiaeth lwyr trwy’r hanner cyntaf, wrth iddyn nhw sicrhau mantais o 20-3 erbyn hanner amser. Fe giciodd Dan Biggar un gic gosb ar ôl y llall, gan ennill teitl dyn y gêm.

Fe aeth y Gweilch ymlaen wedyn i sgorio chwe chais yn yr ail hanner, wrth i broblemau’r Scarlets waethygu pan gafodd Martin Roberts a Sean Lamont eu hanfon i’r cwrt cosbi.