Gweilch 60 – 17 Scarlets

Roedd pac y Gweilch yn llawer rhy gryf i’r Scarlets heddiw wrth i’r tîm cartref gipio buddugoliaeth rwydd.

Wedi’r siom o ohirio darbi fawr y Gorllewin ddoe oherwydd pibellau wedi rhewi yn Stadiwm Liberty, bu’n rhaid i gefnogwyr y ddau dîm ddisgwyl yn eiddgar am ddiwrnod ychwanegol am gêm oedd yn cael ei darogan fel un gystadleuol iawn.

Yn anffodus i’r cefnogwyr o’r tu hwnt i bont Llwchwr, gêm hynod o unochrog oedd hi mewn gwirionedd.

Scarlets yn dechrau’n dda

Yn eironig, y Scarlets ddechreuodd gryfaf ac aeth tîm ifanc Nigel Davies ar y blaen gyda chic gosb o droed Rhys Priestland.

Roedd y frwydr rhwng Priestland a maswr y Gweilch, Dan Biggar, wedi ei thrafod yn frwd ymlaen llaw. Er mai Priestland oedd y mwyaf creadigol yn y munudau agoriadol, sicrhaodd pac y Gweilch bod yr oruchafiaeth yn gwyro i gyfeiriad Dan Biggar yn fuan iawn.

Ciciodd Biggar dair cic gosb i wneud y sgôr yn 9-3 cyn i’r cais cyntaf gael ei sgorio. Tafliad gwallus yn y lein gan gapten y Scarlets a Chymru, Matthew Rees arweinodd at ymosodiad a gafodd ei orffen yn y gornel gyda chais i James Hook.

Ciciodd Biggar ddwy gic gosb arall cyn yr egwyl i sicrhau goruchafiaeth o 20-3 i’r tîm cartref ar yr hanner.

Cell callio’n cosbi’r Scarlets

Byddai Nigel Davies wedi bod yn weddol hapus gyda dechrau’r ail hanner wrth i’w dîm edrych yn fygythiol, ond diflannodd unrhyw obaith wrth i’w fewnwr, Martin Roberts, weld cerdyn felen am regi ar y dyfarnwr.

Cafodd y Scarlets eu cosbi’n hallt wrth i’r Gweilch sgorio dau gais yn ystod absenoldeb Roberts – y gyntaf i Jonathan Thomas yn y gornel, ac yna’r ail i Dan Biggar wrth iddo redeg yn glir o’r amddiffyn gwasgaredig.

Roedd y gêm eisoes y tu hwnt i’r Scarlets, ond llwyddwyd i adennill peth hunan barch yn fuan wedyn wrth i Gareth Maule groesi wedi rhediad gwych gan Sean Lamont.

Funudau’n ddiweddarach, roedd Lamont yntau yn y cell cosbi wedi penderfyniad hallt gan y llumanwr Tim Hayes.

Yr un oedd yr hanes yn ystod Lamont a Roberts yn y cell – dau gais i’r Gweilch.

Daeth y cyntaf i gyn-asgellwr y Dreigiau, Richard Fussel, ac yna’r ail i’r Gwyddel Tommy Bowe.

Yna daeth cais i wobrwyo goruchafiaeth blaenwyr y Gweilch wrth i’r prop rhyngwladol, Paul James, durio wedi hyrddiad cryf gan y pac cartref.

Er bod y gêm wedi ei cholli, dal i ymdrechu wnaeth y Scarlets ac wedi i glo’r Gweilch, Ian Evans, ddilyn Lamont i’r cell cosbi llwyddodd yr ymwelwyr i sgorio cais gysur trwy Jonny Fa’amatuainu.

Ond, y Gweilch cafodd y gair olaf, a hynny wrth i’r eilydd o fewnwr Jamie Nutbrown sgorio yn yr eiliadau olaf.