Mae gweithwraig elusen a gafodd ei lladd ar ôl cael ei herwgipio yn Afghanistan ym mis Medi ymhlith tri enw ar restr fer Gwobr Ddyngarol Robert Burns 2011.

Caiff y wobr ei chyflwyno bob blwyddyn i rywun sydd wedi “achub, gwella neu gyfoethogi bywydau pobl eraill neu gymdeithas yn ei chyfanrwydd”.

Roedd Linda Norgrove, 36 oed, a ddeuai o Ynysoedd Gorllewinol yr Alban, yn gweithio ar raglenni cymorth yn Jalalabad yn Afghanistan. Cafodd ei lladd wrth i filwyr America geisio ei rhyddhau o afael ei herwgipwyr.

Ar ôl ei marwolaeth, fe wnaeth ei theulu sefydlu elusen o’r enw Sefydliad Linda Norgrove er mwyn parhau â’i gwaith.

‘Cydnabyddiaeth’

Cafodd ei henwebu ar gyfer gwobr Burns gan Alasdair Allan, Aelod Senedd yr Alban dros yr Ynysoedd Gorllewinol.

“Dw i’n falch iawn o weld bod Linda a’i theulu wedi derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol hon am y cyfraniad nodedig a wnaeth Linda wrth helpu pobl mewn lleoedd peryglus ledled y byd,” meddai

“Mae Gwobr Ddyngarol Robert Burns yn cydnabod yr union fath o waith anhunanol yr oedd Linda yn ei arddel ac y rhoddodd ei bywyd drosto yn y diwedd.

“Mae gweld ei henw ar y rhestr fer yn gyfle da hefyd i amlygu’r gwaith y mae Sefydliad Linda Norgrove eisoes yn ei wneud yn Afghanistan er cof amdani.”

Fe fydd yr enillydd yn cael ei enwi mewn seremoni yn Amgueddfa Burns yn Alloway ar 22 Ionawr. Y wobr yw 1759 gini, swm sy’n cyfateb i flwyddyn geni’r bardd.

Llun: Linda Norgrove