Cafwyd hyd i fom yn llysgenhadaeth Gwlad Groeg yn Rhufain heddiw – bedwar diwrnod ar ôl i ffomiau tebyg ffrwydro ac anafu dau berson mewn llysgenadaethau eraill yn y ddinas.

Dywedodd y llysgennad Michalis Kambanis i’r pecyn, a oedd wedi ei gyfeirio at y llysgenhadaeth, gael ei ddarganfod am 10.30 y bore yma. Cafodd y ddyfais ei difa cyn i neb gael eu hanafu.

Yn ôl swyddogion diogelwch, roedd y bom yn debyg i’r rhai a ffrwydrodd ddydd Iau yn llysgenadaethau Chile a’r Swistir. Roedd grŵp o anarchwyr a oedd â chysylltiadau honedig ag anarchwyr Groegaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydradau hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran gweinyddiaeth dramor gwlad Groeg, Gregoris Delavekouras, fod camau diogelwch a oedd eu cymryd ganddyn nhw wedi helpu osgoi unrhyw anafiadau yn y digwyddiad heddiw.

“Roedd y llysgenhadaeth wedi cael ei gwacáu a’r staff wedi ymgynnull yn ddigon pell o’r adeilad fel y gellid cyfrif am bawb,” meddai.

“Roedd mesurau diogelwch llymach eisoes ar waith yn llysgenhadaeth Gwlad Groeg a llysgenadaethau eraill, fel fod y weithdrefn yn glir. Mae’r mater bellach yn nwylo heddlu’r Eidal.”

Rhybuddio

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio pob llysgenhadaeth yn Rhufain i fod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl y bomiau ddydd Iau, a heddiw oedd y diwrnod cyntaf o fusnes ar ôl gwyliau’r Nadolig.

Grŵp a oedd yn galw’i hun y Ffederasiwn Anarchaidd Anffurfiol oedd wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydrad ddydd Iau, ac yn ôl adroddiadau newyddion roedd un o’r negeseuon hawlio’n cyfeirio at enw Lambros Fountas, anarchydd Groegaidd a gafodd ei ladd mewn brwydr arfog gyda’r heddlu ym mis Mawrth.

Yn ôl ysgrifennydd cartref yr Eidal, Roberto Maroni, y gred yw y gall fod gan yr anarchwyr yma gysylltiadau â’r anarchwyr a oedd yn gyfrifol am fomiau mewn llysgenadaethau yn Athen ddechrau’r mis diwethaf.

Ar Dachwedd 2, cafodd 14 o fomiau eu postio i lysgenadaethau tramor yn Athen, yn ogystal ag i brif weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy a Changhellor yr Almaen, Angela Merkel.