Mae naw o ddynion a gafodd eu harestio mewn cyrchoedd gan heddlu gwrth-derfysgol wythnos yn ôl wedi cael eu cadw yn ddalfa ar gyhuddiadau o gynllunio ymosodiad terfysgol cyn y Nadolig.

Ymddangosodd y naw dyn, rhwng 19 a 28 oed, gan gynnwys tri o Gaerdydd, mewn tri gwahanol grŵp yn llys ynadon dinas Westminster y bore yma.

Yr unig beth a wnaeth y naw oedd cadarnhau eu henwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau cyn i’r Barnwr Ardal Howard Riddle neu cadw yn y ddalfa i ymddangos yn yr Old Bailey ar Ionawr 14.

Roedd 12 dyn wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl y cyrchoedd wythnos yn ôl yn Llundain, Caerdydd, Stoke-on-Trent a Birmingham, ond cafodd dau o Gaerdydd ac un o Lundain eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae’r naw a ymddangosodd yn y llys y bore yma wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i achosi ffrwydrad neu ffrwydradau “a fyddai’n debygol o beryglu bywydau neu achosi niwed difrifol i eiddo yn y Deyrnas Unedig” rhwng Tachwedd 6 a Rhagfyr 21 eleni.

Maen nhw hefyd wedi cael eu cyhuddo o baratoi ar gyfer gweithredoedd terfysgol yn ystod yr un cyfnod trwy gyflawni gweithgareddau a oedd yn cynnwys lawlwytho, ymchwilio, cael a thrafod deunyddiau a dulliau, a chytuno ar dargedau posibl, a chynnau a phrofi deunydd ymfflamychol.

Tri o Gaerdydd

Y tri dyn o Gaerdydd sydd wedi cael eu cyhuddo yw Gurukanth Desai, 28, o Albert Street; Omar Sharif Latif, 26, o Neville Street; a Abdul Malik Miah, 24, o Ninian Park Road.

Y ddau o Lundain yw Mohammed Moksudur Rahman Chowdhury, 20, o Stanliff House, Tower Hamlets, a Shah Mohammed Lutfar Rahman, 28, o St Bernard’s Road, Newham.

Daw’r pedwar arall o Stoke-on-Trent: Nazam Hussain, 25, o Grove Street; Usman Khan, 19, o Persia Walk; Mohibur Rahman, 26, ofNorth Road; a Abul Bosher Mohammed Shahjahan, 26, of Burmarsh Walk.