Fe fydd y gêm fawr rhwng y Gweilch a’r Scarlets yn cael ei chynnal heddiw – ddiwrnod yn hwyr.
Fe gafodd darbi’r Gorllewin ei gohirio ddoe am fod pibellau wedi rhewi o dan dri o’r llefydd eistedd yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.
O ganlyniad, meddai’r Gweilch, roedd y penderfyniad i ohirio wedi ei wneud gan Swyddog Diogelwch y stadiwm.
Fe fydd pob un o’r tocynnau ar gyfer y gêm ddoe’n parhau’n ddilys ar gyfer y prynhawn yma, gyda’r gic gynta’ am 4.10 ac fe fydd hi’n cael ei dangos yn fyw ar S4C.
Mae disgwyl y bydd Stadiwm Liberty’n llawn.
Gêm bwysig
Mae’r gêm yng Nghynghrair Magners yn cael ei hystyried yn un bwysig o ran paratoadau Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, gyda’r hyfforddwr, Warren Gatland, yn gobeithio gweld rhai o’r chwaraewyr gorau’n wynebu’i gilydd.
Mae gêm y Dreigiau a’r Gleision yn parhau wedi’i gohirio oherwydd bod y cae wedi rhewi’n rhy galed.
Llun: Stadiwm Liberty