Tro dwyrain yr Unol Daleithiau yw hi i gael eira trwm, ond mae hynny’n achosi trafferthion yn Ewrop hefyd.

Mae’r stormydd yn effeithio ar gannoedd o deithiau awyr ar draws yr Iwerydd, gyda meysydd awyr yn ardaloedd Efrog Newydd, Washington a Boston yn cael eu cau.

Fe gafodd rhai pobol eu cadw am oriau ar awyrennau cyn clywed yn y diwedd bod eu teithiau wedi eu canslo.

Mae disgwyl cymaint â dwy droedfedd o eira mewn rhai mannau gyda’r anhrefn yn cyrraedd cyn belled â Chicago i’r gorllewin.

Mae rhai o daleithiau’r De – gan gynnwys De Carolina – wedi cael eu heira sylweddol cynta’ tros y Nadolig ers mwy na chanrif.

Llun: Y Washington Post yn dangos yr eira