Mae Craig Bellamy wedi rhoi’r gorau i fod yn gapten Cymru – ond wedi addo na fydd yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Fe ddywedodd hefyd ei fod yn croesawu penodiad Gary Speed yn rheolwr newydd ar Gymru, a hynny ar ôl cyfarfod gydag ef yn ystod y dyddiau diwetha’.
Mae Bellamy’n poeni na fydd yn gallu chwarae pob gêm, oherwydd y problemau gyda’i bengliniau, ac na ddylai fod yn gapten oherwydd hynny.
Roedd wedi chwarae i Gymru pan oedd Speed ei hun yn gapten, meddai, ac wedi gweld fel yr oedd yn chwarae’n gyson ac yn arwain “o’r blaen”.
Fe ddywedodd Bellamy wrth Radio Wales ei fod wedi dweud yr un peth wrth y cyn-reolwr John Toshack.
Doedd dim angen bod yn gapten i’w ysbrydoli, meddai, roedd gwisgo’r crys coch yn ddigon.