Fydd Cymru’n ennill fawr ddim o etifeddiaeth y Gêmau Olympaidd yn Llundain, yn ôl un o aelodau seneddol Plaid Cymru.

Mae’n honni hefyd bod Cymru wedi colli bron hanner miliwn o bunnoedd o wario cyhoeddus oherwydd y digwyddiad.

Yn ôl Hywel Williams, dyw’r wlad ddim yn cael ei henwi o gwbl mewn dogfen sy’n sôn am waddol y Gêmau a’r Gêmau Paralympaidd yn 2012.

Mae’n honni bod cymunedau a chwaraeon yng Nghymru wedi colli £100 miliwn o arian Loteri ond heb ennill cymaint â gwerth 1% o’r holl gytundebau sydd wedi eu rhoi wrth baratoi at y Gêmau.

Beirniadaeth Hywel Williams

“Pan fyddwn yn pwyso a mesur costau a manteision y Gêmau Olympaidd i drethdalwyr Cymru, rhaid i ni ddweud bod llawer o gost, heb lawer o fanteision hyd yma,” meddai AS Caernarfon.

“Mae cyfanswm o £9.3 biliwn o arian cyhoeddus yn mynd at y Gêmau Olympaidd, heb fawr ddim budd i bobol y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

“Petai yna ddyfarniad Barnett ar y swm sy’n cael ei wario gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yna fe fyddai Cymru wedi bod ar ei hennill o £337 miliwn.”

Llun: Adeiladu’r Pentre Olympaidd