Mae tri o ddynion o Gaerdydd wedi cael eu cyhuddo o droseddau terfysgol ar ôl cael eu cadw yn y ddalfa am wythnos.
Roedden nhw ymhlith 12 o bobol a gafodd eu harestio a naw sydd wedi’u cyhuddo. Mae pedwar o’r rheiny’n dod o Stoke a dau o Lundain.
Fe gafodd dau ddyn arall o Gaerdydd eu rhyddhau heb gyhuddiad, ynghyd â llanc 17 oed o Lundain.
Y tri dyn
Enwau’r tri o Gaerdydd yw:
• Gurukanth Desai, 28, o 89 Stryd Albert.
• Omar Sharif Latif, 26 o 28 Stryd Neville.
• Abdul Malik Miah, 24, o 138 Ffordd Parc Ninian.
Maen nhw a’r chwech arall wedi eu cyhuddo o ddwy drosedd – cynllwynio i achosi ffrwydrad a pharatoi ar gyfer gweithred derfysgol – ond, yn ôl Heddlu Gorllewin y Midlands, fe allai rhai o’r grŵp wynebu cyhuddiadau pellach.
Fe fyddan nhw’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Dinas Westminster yn ddiweddarach y bore yma.
Y cefndir
Adeg yr arestio, roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi cael clywed am y digwyddiad a manylion yr ymchwiliad gan y gwasanaeth cudd MI5 a thri heddlu, gan gynnwys Heddlu De Cymru.
Fe gafodd pedwar tŷ eu chwilio yng Nghaerdydd ac, yn ôl y cyhuddiadau, roedd y troseddau wedi digwydd rhwng 1 Hydref ac 20 Rhagfyr heddiw.
Llun: Llys Ynadon Dinas Westminster (HCMS)