Fe ddaeth y canolwr Gavin Henson o fewn dim i sgorio cais gydag un o’i gyffyrddiadau cystadleuol cynta’ ers 20 mis.
Yn ôl y disgwyl, fe ddaeth ar y cae yn yr ail hanner wrth i’w glwb newydd, y Saracens, guro Wasps o 13-6 yn narbi fawr Llundain.
Fe lwyddodd i groesi’r llinell o fewn pum munud i ddod ymlaen ond fe benderfynodd y dyfarnwr teledu nad oedd wedi llwyddo i durio’r bêl.
Does dim ymateb eto i’w ymddangosiad ond fe fydd tîm rheoli Cymru’n falch os bydd wedi dod trwyddi’n ddianaf.
Ar ôl i’w gyfnod ar y rhaglen Strictly Come Dancing ddod i ben, mae cyn arwr y Gweilch bellach yn dweud ei fod yn anelu at chwarae i Gymru yn y Chwe Gwlad.