Mae ail gêm ddarbi fawr rygbi Cymru wedi cael ei gohirio, rhwng y Dreigiau a’r Gleision.
Ddechrau’r prynhawn, fe gyhoeddodd y Dreigiau bod y cae yn Rodney Parade yn rhy galed ar ôl tymheredd o 11 gradd o dan bwynt rhewi tros nos neithiwr.
Tan hynny, roedd haenen o eira wedi cadw’r maes yn gymharol feddal ond, yn ôl rheolwr y stadiwm, roedd y rhew’n ormod.
‘Siiomedigiawn’
“Yn amlwg r’yn ni’n siomedig iawn,” meddai Mark Jones. “Mae’r staff wedi gweithio’n galed yr wythnos hon i geisio gwneud yn siŵr bod y gêm yn digwydd fory ond r’yn ni wedi cael ein curo gan y tywydd eithriadol.”
Y bwriad gwreiddiol oedd gadael yr eira ar y cae tan bore fory ac yna cael cannoedd o wirfoddolwyr i’w glirio – roedd clwb golff lleol wedi addo peiriant clirio eira a chwmni cwrw wedi addo peint i bawb.
Does dim dyddiad newydd ar gael eto ar gyfer y gêm yng Nghynghrair Magners.
Llun: Rodney Parade – fel y mae heb eira (o wefan y Dreigiau)