Caerdydd 2 Coventry City 0

Fe lwyddodd Caerdydd i ddod yn ôl ar eu gorau gyda buddugoliaeth gadarn yn erbyn un arall o dimau gorau’r Bencampwriaeth.

Y capten Craig Bellamy oedd y seren wrth sgorio un gôl a chreu rhes o gyfleoedd i’r blaenwyr eraill wrth i dîm y brifddinas fynd yn ôl i’r ail le.

Dro ar ôl tro, fe drodd gefnwr Coventry tu chwith allan a mynd am y llinell cyn tynnu’r bêl yn ôl. Oni bai am lwyth o arbediadau ardderchog gan goli Coventry, Kieren Westwood, fe fyddai’r Cymry wedi cael buddugoliaeth swmpus.

Fel yr oedd hi, dim ond un gôl a gawson nhw yn y naill hanner a’r llall ac fe gafodd Coventry un cyfnod da yn fuan ar ôl yr egwyl.

Y goliau

Seyi Olofinjana oedd wedi cael y gynta’ i Gaerdydd ar ôl 21 munud, gan lwyddo am unwaith i drosi un o groesiadau Bellamy.

Bellamy ei hun a gafodd yr ail gyda saith munud ar ôl, gydag ergyd o ymyl y blwch.

Gyda Leicester City’n llwyddo i ddod yn ôl o 2-0 ar ei hôl hi a chael gêm gyfartal yn erbyn Leeds, y tîm sy’n cystadlu gyda Chaerdydd am yr ail le, roedd yn brynhawn da iawn i fechgyn Dave Jones.

Llun: Craig Bellamy