Mae’r heddlu yn ardal Bryste wedi cadarnhau mai’r pensaer ifanc, Joanna Yeates, oedd y corff a gafwyd ger ymyl ffordd ar gyrion y ddinas.

Roedd ei theulu wedi bod yn disgwyl y newydd ers i bâr o gerddwyr ddod o hyd i’r corff ddoe – wyth niwrnod ar ôl iddi gael ei gweld ddiwetha’.

Roedd y ferch 25 oed wedi bod allan gyda ffrindiau yng nghanol Bryste ac wedi cael ei gweld ola’ yn prynu pizza mewn siop Tesco leol.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r corff rhyw ddwy filltir o’i chartre’ – roedd ei chariad wedi galw’r heddlu nos Sul diwetha’ ar ôl dod yn ôl o ymweliad â Sheffield a sylweddoli ei bod ar goll.

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn dweud eu bod yn “fodlon” yn eu barn mai Joanna Yeates yw’r corff ond fe fydd rhaid aros am ganlyniadau profion i wybod beth oedd achos ei marwolaeth.

Llun gan yr heddlu