Ynghanol y siom o ohirio’r gêm fawr yn erbyn y Scarlets, roedd yna newyddion da i gefnogwyr y Gweilch a Chymru gyda’r awgrym y gallai Shane Williams fod yn ôl o fewn mis.
Fe ddaeth cadarnhad o’r hyn a ddywedodd physio’r rhanbarth ddeuddydd cyn y Nadolig – y gallai’r asgellwr bach fod yn ôl ar gyfer y gêm yn erbyn Toulon yng Nghwpan Heineken ar 22 Ionawr.
Fe ddywedodd Chris Towers fod Williams yn gwneud yn dda ar ôl datgymalu’i ysgwydd a’i fod eisoes yn gwneud dau neu dri sesiwn o ymarfer pob dydd.
Roedd disgwyl iddo fod allan am gymaint â 12 wythnos – os daw yn ôl yn erbyn Toulon, fe fydd wedi ei gwneud hi mewn naw.
Newydd da i Gymru
Fe fyddai hynny’n newyddion da i Gymru hefyd, gan y byddai ar gael ar gyfer dechrau’r Chwe Gwlad.
Ddydd Iau, fe ddywedodd y physio, Chris Towers, bod Shane Williams yn gweithio’n galed. “Mae’n gwneud cynnydd da a d’yn ni ddim y gwrthod y syniad ohono’n dod yn ôl ar gyfer gêm Toulon sydd cystal â’n gobaith mwyaf.”
Ond roedd ganddo rybudd hefyd – “mae ganddo dipyn o ffordd i fynd”.