Mae gêm rygbi fawr gŵyl San Steffan rhwng y Gweilch a’r Scarlets wedi’i gohirio oherwydd bod peipiau dŵr wedi rhewi yn Stadiwm Liberty.
Roedd cryn edrych ymlaen wedi bod i gêm ddarbi mawr y Gorllewin gyda’r ddau dîm mewn safleoedd da yn y gynghrair.
“Er bod y cae yn iawn i chwarae arno diolch i system wresogi’r tir, fe ddisgynodd y tymheredd i -10c ar y Liberty ddoe, gan olygu bod y peipiau dŵr yn eisteddle’r De, Gogledd a Dwyrain wedi rhewi” meddai datganiad gan y Gweilch.
“O ganlyniad, does dim dŵr yn rhedeg i’r ardaloedd yma o’r stadiwm.”
“Er gwaethaf ymdrechion gorau staff y stadiwm, doedd dim modd datrys y broblem. O ganlyniad, cafodd y penderfyniad i ohirio’r gêm ei wneud gan Swyddog Diogelwch y stadiwm.”
Doedd dim dyddiad newydd wedi ei bennu ar gyfer y gêm eto.
Llun: Stadiwm Liberty