QPR 4 – 0 Abertawe
Roedd y tîm sy’n arwain y bencampwriaeth yn rhy dda i Abertawe heddiw wrth iddyn nhw ildio pedair gôl oddi-cartref yn QPR.
I ychwanegu at ŵyl San Steffan llwm Brendan Rogers, fe gafodd amddiffynwr Abertawe Alan Tate ei yrru o’r maes sy’n golygu y bydd yn cael ei wahardd o chwarae yng nghanol cyfnod prysuraf y flwyddyn.
Aeth Abertawe ar ei hôl hi wedi dim ond chwarter awr ar Loftus Road, gydag ymosodwr QPR, Jamie Mackie yn rhwydo i gornel isaf ochr chwith y rhywd.
Dair munud yn ddiweddarach, cafodd Tate ac amddiffynwr QPR, Clint Hill, ill dau ei gyrru o’r maes am ymddwyn yn dreisgar.
Er i’r Elyrch greu’r mwyafrif o gyfleoedd wedi hynny, 1-0 i’r tîm catref oedd hi ar yr hanner.
Roedd Abertawe’n ddigon bygythiol ar ddechrau’r ail hanner, ond yna cafodd yr ymwelwyr hanner awr olaf hunllefus i’r gêm.
I ddechrau’r hunllef, ildiodd Ashley Williams gic o’r smotyn wedi awr o’r gêm gan weld cerdyn melyn am ei drafferth. Rhwydodd Heidar Helguson y gic gosb yn gyfforddus i’w gwneud yn 2-0.
Daeth y drydedd lai na deng munud yn ddiweddarach – Adel Taarabt yn sgorio o ergyd yn y cwrt cosbi wedi gwaith da gan Heidar Helguson.
Taarabt darodd yr hoelen olaf yn arch Abertawe gyda deng munud yn weddill hefyd gyda’i ail gôl o’r gêm.
Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe yn y pedwerydd safle, saith pwynt y tu ôl i QPR ar y brig.
Llun: Alan Tate