Mae eisiau cael gwared ar arholiadau TGAU meddai prifathrawes ddylanwadol.

Gyda disgwyl i oed gadael ysgol godi i 18, does dim lle bellach i arholiadau ffurfiol pwysig pan fydd pobol ifanc yn 16 oed, meddai Dr Helen Wright, Llywydd newydd Cymdeithas yr Ysgolion Merched.

Yn un o’i chyfweliadau cynta’ ers dod i’r swydd, fe ddywedodd bod angen edrych ar drefniadau mwy hyblyg.

“Pam yden ni’n canolbwyntio ar ffurf academig iawn o asesu yn 16 a 18 oed?” meddai. “Oni ddylen ni fod yn cael gwared ar yr un 16 oed neu’n lleihau ei gwerth neu bwysigrwydd?”

Fe awgrymodd y byddai asesiad o fewn ysgol yn ddigon neu chwilio am lwybrau newydd i ddisgyblion.

Llun: Desgiau’n barod ar gyfer arholiad