Fe fydd y parc a ysbrydolodd beth o farddoniaeth Dylan Thomas yn cael ei adfer ar gyfer canmlwyddiant geni’r bardd.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n rhoi £820,000 tuag at y gwaith ar Barc Cwmdonkin sy’n agos at y tŷ lle cafodd Dylan Thomas ei fagu yn Abertawe. Yno yr ysgrifennodd tua hanner ei gerddi enwoca’, gan gynnwys The Hunchback in the Park.
Y nod yw gorffen y gwaith adfer erbyn 2014, canmlwyddiant geni’r bardd sydd wedi dod ag enwogrwydd byd-enwog i Abertawe.
Ond mae hefyd yn barc hanesyddol – fe gafodd ei greu yn 1874, yn un o’r parciau dinesig cynta’ yng Nghymru, mewn cyfnod pan oedd creu cyfleusterau hamdden o’r fath yn ffasiynol.
“Dylan Thomas yw mab enwoca’ Abertawe a Pharc Cwmdonkin yw un o’r llefydd yn y ddinas sy’n gyfystyr â’i enw ef,” meddai’r cynghorydd lleol, Graham Thomas. “Mae’n addas ein bod cynlluniau ar droed i ailwampio’r parc ar gyfer ei ganmlwyddiant.”
Llun: Y ffordd i mewn i Barc Cwmdonkin