Fe fydd sylw cefnogwyr rygbi Cymru ar ddau faes gwahanol a dwy gêm ddarbi fawr heddiw – a’r rheiny tua 150 milltir ar wahân.
Yn Stadiwm Liberty Abertawe, fe fydd y Gweilch a’r Scarlets yn wynebu ei gilydd yng ngêm darbi fwya’ cystadleuol Cymru.
Yn Llundain, mae disgwyl i’r canolwr Gavin Henson gael ei funudau cynta’ o rygbi cystadleuol ers bron ddwy flynedd.
Fe fydd ar y fainc i dîm y Saraseniaid yn eu gêm fawr nhw yn erbyn Wasps yn Wembley a’r disgwyl yw y bydd yn dod ymlaen cyn diwedd y gêm.
Argyfwng
Mae wedi mynd trwy fisoedd o argyfwng, gan droi ei gefn ar y gêm a gweld ei berthynas gyda’r gantores Charlotte Church yn chwalu.
Fe fu’n ymddangos ar y gyfres Strictly Come Dancing tan ychydig wythnosau’n ôl ond mae wedi dweud ei fod yn anelu at chwarae i Gymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi croesawu ei ddychweliad gan ddweud fod Cymru’n dueddol o chwarae’n dda pan fydd Henson yn y tîm.
Llun: Gavin Henson (Chris Jobling CCA 2.0)